Monday, November 8, 2010

BBC Cymraeg AC S4C - we want MORE not less


Mae rhaglenni BBC Alba yn iawn, a'r gyllideb yn fach o gymharu. ac yn y bylchau enfawr rhwng rhaglenni maen nhw'n chwarae BBC Radio nan Gael. Felly beth am GADW y 100 miliwn (cyllideb S4C) a chreu ail sianel BBC cymru gyda 20 miliwn o'r arian i gystadlu yn y Gymraeg yn erbyn S4C - felly dewis o raglenni. A phob rhaglen ar gael ar CLIC neu BBC watch it again drwy'r byd ac am ddim. (Pam blocio yr ychydig sy'n gwylio tramor rhagwylio rhaglenni yn y Gymraeg, dan ni angen bob Cymro ble bynnag y bont.) Mae'r iaith dan warchae, nid mater o 'gyllun busnes' yw hi ond o oroesiad ein cenedl , a theledu yn graidd yn yr oes sydd ohoni.
Petroc ap Seisyllt

No comments: