Tuesday, June 16, 2009

Dydd Sadwrn 20fed Mehefin (12pm) Primrose Hill

Cofeb i Iolo Morganwg i'w ddadorchuddio yn Llundain

Dydd Sadwrn 20fed Mehefin (12pm)
Bryn y Briallu NW3

Bydd dadorchuddiad hir-ddisgwyliedig cofeb i'r bardd chwedlonol Iolo Morganwg (1774-1826) yn cymryd lle ar gopa Bryn y Briallu yng Ngogledd Llundain ar Ddydd Sadwrn 20fed Mehefin (12pm).

Mae'r achlysur hanesyddol hwn yn cofnodi cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain a drefnwyd gan Iolo ar hirddydd haf 1792.

Rhoddwyd caniatad gan y Parciau Brenhinol i goffhau y digwyddiad arwyddocaol hwn yn hanes Cymru gyda chofeb priodol i'r cymeriad arthrylithgar gan y cerflynydd John Meirion Morris, yr unig un o'i fath ar y bryn enwog hwn. Nid yn unig bydd yn denu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt ond bydd yn ganolbwynt i bobl o Ogledd Llundain a'r gymuned Gymreig.

Ymysg y sawl fydd yn mynychu'r ddefod liwgar hon fydd aelodau o'r Orsedd (yn eu gwisgoedd swyddogol), gan gynnwys Ceidwad y Cleddyf, Robin McBride, yr Archdderwydd Gweithredol Robyn o Lyn, Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad Cenedlaethol, Alun Ffred Jones AC ac Elfyn Llwyd AS.

Bydd y ddefod yn dechrau am hanner dydd gydag araith gan y darlledwr a Llywydd Cymdeithas Cymru Llundain, Huw Edwards, datganiad barddol, canu a'r dadorchuddiad.

Dywed Huw Edwards:

"Y mae pawb ohonym ni Gymru Llundain yn falch tu hwnt o'n cysylltiad a Iolo Morganwg. Dyma un o'n harwyr cenedlaethol, a bu disgwyl mawr am y cyfle i osod cofeb priodol iddo yn Llundain. Bydd Mehefin 20fed yn ddydd o ddathlu i Gymry ym mhob man, a'r gobaith yw y daw torf dda i Fryn y Briallu i dalu teyrnged addas i Iolo a'i athrylith."

Roedd gan Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid, sawl breuddwyd i Gymru, ac mae ei seremoniau yn ran allweddol o'r Eisteddfod Genedlaethol bellach. Y mae'n briodol ei fod ef a'r Orsedd yn cael eu clodfori yn y modd hwn.

Am fanylion pellach, cysylltwch a:

John Jones Ebost: johnjones.calan@googlemail.com

neu

Rhian Medi Ebost: rhianmedi@hotmail.com