Tuesday, September 6, 2011

Y BBC a'r Gymraeg Medi 2011

Y BBC a'r Gymraeg Medi 2011. Wedi i mi ddod yn ôl o bythefnos ar y cyfandir nes i sylwi fod y BBC wedi blocio'r iaith Gymraeg yno. Doedd hi ddim yn bosib cael rhaglenni cymraeg tra yn Awstria, Tsiec, Slofacia ac Iwcrain. Does dim gwerth masnachol i raglenni o'r fath ar y cyfandir. (Na tu allan i Gymru) . Felly pam blocio, dim ond mater o glic ar gyfrifiadur a llinell fer mewn cytundeb sydd angen.

Rôl swyddogol y BBC yw addysgu - ac mae angen bob siaradwr cymraeg. Mae gannddyn nhw fonopoli bron llwyr ar newyddion cymraeg, darlledi cymraeg a gwefanau cymraeg. Agor y drysau i'r byd cael gweld a dysgu Cymraeg. Ar fy iFFôn doedd na ddim un problem i gael TV o'r Almaen, o Georgia, o Wlad y Basg hyd yn oed. Pam llesteirio ein hiaith lleiafrifol? Pam?
Petroc ap Seisyllt

Saturday, June 25, 2011

Nationwide BSoc dim feri Cenedl-eang




Fel y gwelwch dydy'r cymdeithas aleiladu mwyaf ddim yn atebol i'w gwsmeriadau cymraeg neu cymreig (dwi'n derbyn bod 75% o gymry digymraeg yn bleidiol i'r iaith - ac y rhan fwyaf o'r Saeson hefyd). Does ond Swansea BS a Newport BS a'r Principality ar ol yng Nghmru a'r ddau llai yn hollol diGymraeg, a Principality fawr gwell. Felly aelodau lleisiwch eich barn!

Monday, May 23, 2011

Imogen Thomas a Ryan Giggs yn Cnychu?

Da iawn ti Imogen am fachu ein sêr talentog Ryan Giggs, amdani ferch! Byddai Gwerful Mechain yn falch ohonot. Ond nid felly mae'r Sais yn ei weld e. Dyfynnaf isod;

"Everything that has happened so far with this whole debacle is a result of you being a selfish cunt. Every single thing. And every potential consequence which I will explain will also be the result of you being a selfish cunt. Here's why:

Firstly, and basically, just to set the scene - putting your knob in someone who isn't your partner (presumably) without her knowledge or consent = selfish cuntery. I'm not holding up monogamy as an ideal, but if that's what you've promised someone, that's what you give them, and it's selfish, and cuntish, to do otherwise."

Yn bersonnol dw i jest yn hapus nad oeddet ti wedi bod efo Rooney.

Rhyddid barn i bawb o blant y byd -ond yn y Cymru sydd ohoni does na neb yn enwi bechgyn drwg Cyngor Sir Môn, pardduo tu ôl i ddrysau caeedig amdani yng Ngwlad y Menig Gwynion.

Saturday, December 11, 2010

Talu yn y Gymraeg heddiw?






Dim ond yn ffordd sy i dalu y y gymraeg - drwy mynnu siarad ar y ffon a rhywun sy'n siarad cymraeg ac wedyn talu gyda cherdyn . Rhaid mynnu ar bob cam o'r ffordd. Gwarthus.

Fy ngwyn 2010 atyn nhw.... in Welsh; Dwi eisiau adnewyddu fy nhrywdded ar lein ond does dim ffordd i wneud hyn yn y gymraeg. A wnewch chi drefnu ffordd electroneg i mi dalu YN Y GYMRAEG os gwelch yn dda? Yr eiddoch yn gywir Petroc ap Seisyllt 1791159875 = trywdded presennol

ei hateb nhw - yn saesneg

Thank you for your enquiry.
You will receive an email providing you with a unique reference number for your enquiry shortly. We will respond to your enquiry within 3 working days. If you are making a complaint we'll need time to fully investigate it and you will receive a response within 8 working days.

Darllen rhain hefyd

Saturday, November 27, 2010

UK con-dem government minister seeks to portray S4C as failing the Welsh. He is lying. These are the facts about S4C, but why let them spoil a good he

Ffigyrau gwylio S4C ar gynnydd


UK con-dem government minister seeks to portray S4C as failing the Welsh. He is lying. These are the facts about S4C, but why let them spoil a good headline?

By Carys Evans, Head of Research, S4C

Read More http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/11/04/these-are-the-facts-about-s4c-but-why-let-them-spoil-a-good-headline-91466-27600820/#ixzz16Wf5MkHs

Monday, November 8, 2010

BBC Cymraeg AC S4C - we want MORE not less


Mae rhaglenni BBC Alba yn iawn, a'r gyllideb yn fach o gymharu. ac yn y bylchau enfawr rhwng rhaglenni maen nhw'n chwarae BBC Radio nan Gael. Felly beth am GADW y 100 miliwn (cyllideb S4C) a chreu ail sianel BBC cymru gyda 20 miliwn o'r arian i gystadlu yn y Gymraeg yn erbyn S4C - felly dewis o raglenni. A phob rhaglen ar gael ar CLIC neu BBC watch it again drwy'r byd ac am ddim. (Pam blocio yr ychydig sy'n gwylio tramor rhagwylio rhaglenni yn y Gymraeg, dan ni angen bob Cymro ble bynnag y bont.) Mae'r iaith dan warchae, nid mater o 'gyllun busnes' yw hi ond o oroesiad ein cenedl , a theledu yn graidd yn yr oes sydd ohoni.
Petroc ap Seisyllt

Thursday, October 7, 2010

Mesur Iaith Dof a didanedd

Ymateb i erthygl y bbc mesur iaith - erthygl 6/10/10

Digon glir Emyr, ond y peth sylfaenol yw beth sy'n digwydd yn lleol ar lawr gwlad. Dadl Saunders yn 1961 (hanner ganrif yn ôl) oedd i sefydlu'r Gymraeg yn iaith WEINYDDOL yn yr ardaloedd cymraeg. Dim ond Gwynedd sy'n gwneud hyn, ac hwnnw yn rhannol. Ac erbyn heddiw mae'r ardaloedd "Cymraeg" wedi crebachu, a bydd cyfrifiad 2011 yn ategu at y crebachu. Mae Cyfansoddiad Iwerddon yn datgan yn glir bod "Gwyddeleg yw iaith y Weriniaeth" ond at ba ddiben?. Mae llysoedd a gweinyddiaeth Iwerddon wedi anwybyddu hyn dros degawdau. Dim ond chwyldro meddylfryd all newid y sefyllfa yng Nghymru. Dof ydy'r unig gair addas i ddisgrifio'r 'deddfwriaeth' newydd. A dofednod y buarth Cymraeg a'u hysgrifennodd. Mae geiriau R Williams Parry am Gymru 1937 yn dod i'r cof.
" Rho awr o wallgofrwydd i'r llugoer tu ôl i'w fur,
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia"

Petroc ap Seisyllt Llundain hydref 2010

http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2010/10/gwella_pethau.html