Monday, July 20, 2009

Torri'r Gymraeg yn Lloegr


Mae'r Learning and Skills Council, sy'n ariannu cyrsiau i oedolion, wedi torri'r cyrsiau Cymraeg yn Lewisham ac yn Richmond - ar un adeg roedd pedwar dosbarth rhyngddynt. Mae hyn yn ganran sylweddol o'r darpariaeth yn Llundain. Dyw'r LSC erioed wedi ariannu dosbarthiadau Canolfan y Cymry. Felly beth yw eu polisi ar gyfer y Gymraeg - dim polisi o gwbl. Oes angen dosbarthiadau Cymraeg yn Lloegr?
Oes. Mae degau o filoedd yn symud i mewn ac o Gymru bob blwyddyn o Loegr. I rieni mae rhaid iddyn nhw ymdopi ag ysgolion dwyieithog, gwaith cartref cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. I athrawon mae rhaid dysgu rhywfaint o Gymraeg i'r plant bob dydd yn yr ysgol gynradd. Sgil 'defnyddiol' yw'r gymraeg i lawer o swyddi cyhoeddus ac i fusnesau bach. Roedd un fyfywraig yn dysgu oherwydd heb y Gymraeg, ar lafar o leiaf, doedd na ddim dyfodol i'w busnes fel plymer yng Nghymru. I un arall roedden nhw'n cadw tafarn yn y Gogledd a'r Gymraeg yn bwysig yn eu cynllun busnes. Felly mae angen strategaeth i warchod yr ychydig o Gymraeg sydd ar ol, ac i wella'r ariannu sy'n dod o flwyddyn i flwyddyn.

1 comment:

Cymry'r Canolbarth said...

Mae gwir angen cyrsiau Cymraeg ar hyd a lled Lloegr, mae'na filoedd o Gymry Cymraeg a Chymry di-gymraeg sy eisiau cadw mewn cysylltiad â'r iaith, heb son am bobl o Sias sy'n diddori yn yr iaith. Mae hi'n hen bryd hefyd i'r cynulliad ac yr Eisteddfod Genedlaethol rhoi sylw ac arian i'r achos yma. Yn ôl adroddiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, mae'na 800,000 o bobl o dras Gymreig sy'n byw yn Lloegr a hefyd yn yr un adroddiad mae'na son am 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr. Beth am sefydlu Menter Iaith i Loegr?
Pob hwyl
Jonathan Simcock
http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/