Monday, February 1, 2010

Wedi Symud i http://draigwen.nireblog.com/

http://draigwen.nireblog.com/ yw fy nghyferiad blog newydd, blog yn y gymraeg.

Tuesday, January 12, 2010

Blogio yn y Gymraeg, Wicio yn y Gymraeg.

Gofynnaf i chi anfon rhestr o blogiau Cymraeg eu hiaith yn Lloegr. Gobeithiaf ddwyn perswad ar y BBC i hysbysebu mwy am y wahanol grwpiau yn Lloegr ac i Blogger creu fersiwn Cymraeg i ni hefyd. Yr wythnos 'ma dwi wedi cyfrannu erthygl am "Myfyriadau ar y Chwydlro yng Nghiwba" ar fy mlog Prifysgol Agored.
http://learn.open.ac.uk/mod/oublog/view.php?user=470279
Ac dw'i wedi ategu erthygl ffeithiol am Cuba i Wicipedia yn y Gymraeg.

Monday, December 7, 2009

Cymry'r Canolbarth

Ewch i'w safle blogger am eu hanes.

Gweithdy Cymraeg 21-11-09
entrada de Cymry'r Canolbarth en Cymry'r Canolbarth - Hace 1 semana
Cawson ni nifer barchus iawn o bobl yn y gweithdy Cymraeg bore dydd Sadwrn yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby. Cafodd pawb amser da ac roedd hi'n gyfle da i ymarfer yr hen iaith. Yr ydyn ni'n mynd ymlaen efo'r ...

Bore Coffi popeth yn Gymraeg Nottingham ac Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2009
entrada de Cymry'r Canolbarth en Cymry'r Canolbarth - Hace 2 meses
Penwythnos prysur yn Nottingham a Derby! Mi ges i fodd i fyw'r penwythnos yma, dau ddigwyddiad Cymreig a Chymraeg o fewn yr un penwythnos! Yn gyntaf y cyfarfod misol Bore Coffi Popeth yn Gymraeg ar fore dy...

Cwrs Newydd lefel 2 yn Llundain Pnawn Gwener yn y City Lit



Mae Cwrs Newydd lefel 2 yn Llundain Pnawn Gwener yn y City Lit. Roedd dosarth lefel 1 llynedd ac mae nifer y myfywyr sy'n mynd ymlaen i lefel 2 wedi codi, roedd lefel 2 ar gael ond gyda'r hwyr ac roedd y dosbarth yn llawn eleni. Cofiwch ddweud wrth dysgwyr profiadol am y dosbarth newydd. Addas i'r rhai sy wedi gwneud blwyddyn llawn o dosbarthiadau.

Gwasanaeth Ailradd i'r Cymry eto


Mae'r safle we newydd TV licensing yn cynnig ond rhifau ffôn saesneg, mae'r hen rhif ffôn cymraeg wedi peidio hefyd. Rhaid mynd drwy siaradwr Saesneg a mynnu defnyddio'r Gymraeg cyn mynd ymlaen at linell Cymraeg , aros am pum munud ac wedyn cewch chi ateb yn y Gymraeg. Dyma 'progress'.

Sunday, November 22, 2009

DYSGWYR CILGWRI blog o Loegr ar y brig!


DYSGWYR CILGWRI - blog ar ran dysgwyr - sy wedi cyrraedd rhif 10 ymhlith blogiau Cymraeg. Mae lawer iawn o Gymru tu allan i Gymru yn weithredol ac yn dalentog. Pan anwybyddu Cymru LLoegr a rhoi cymaint o sylw i'r dyrnaid yn Ne America?

Thursday, November 19, 2009

Confesiwn yn Riportio- Ie i'r refferedwm.


Confesiwn yn Riportio- Ie i'r refferedwm.

O'r diwedd mae'r corff sy'n penderfynnu ffawd y cynulliad wedi riportio - ac o blaid y refferendwm i 'ryddhau' pwerau mae San Steffan eisioes wedi rhoi i Gymru (diolch maam wrth ddofi nghap). Ond cenedl yw Gymru ac nid cyngor sir mohoni. Mae hyn fel gosod bwyd ar y bwrdd ar eich cyfer ac wed mynnu bod rhaid i chi ofyn caniatad i'w fwyta.....
Wel o leiaf un cam yn nes at y bwrdd......

Petroc
Dyma'r ddolen i'r bras-adroddiad.

http://wales.gov.uk/docs/awc/publications/091118leafletcy.pdf