Y BBC a'r Gymraeg Medi 2011. Wedi i mi ddod yn ôl o bythefnos ar y cyfandir nes i sylwi fod y BBC wedi blocio'r iaith Gymraeg yno. Doedd hi ddim yn bosib cael rhaglenni cymraeg tra yn Awstria, Tsiec, Slofacia ac Iwcrain. Does dim gwerth masnachol i raglenni o'r fath ar y cyfandir. (Na tu allan i Gymru) . Felly pam blocio, dim ond mater o glic ar gyfrifiadur a llinell fer mewn cytundeb sydd angen.
Rôl swyddogol y BBC yw addysgu - ac mae angen bob siaradwr cymraeg. Mae gannddyn nhw fonopoli bron llwyr ar newyddion cymraeg, darlledi cymraeg a gwefanau cymraeg. Agor y drysau i'r byd cael gweld a dysgu Cymraeg. Ar fy iFFôn doedd na ddim un problem i gael TV o'r Almaen, o Georgia, o Wlad y Basg hyd yn oed. Pam llesteirio ein hiaith lleiafrifol? Pam?
Petroc ap Seisyllt
Tuesday, September 6, 2011
Subscribe to:
Posts (Atom)